Band y Mis

Cartref > Ysgol > Siarter Iaith > Band y Mis

Band y Mis

Mae Criw Siarter Iaith Ysgol Nefyn yn grŵp brwdfrydig sy’n helpu i hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ysgol. Mae nhw’n dod at ei gilydd i rannu syniadau, gwneud penderfyniadau a threfnu digwyddiadau sy’n dathlu Cymreictod.

Yn dilyn canlyniadau holiadur y Siarter Iaith, un o dargedau’r ysgol yw annog mwy o bobl i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Felly, mae’r criw wedi penderfynu cyflwyno “Band y Mis” er mwyn ysbrydoli mwy o bobl i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg!

Band y mis yma yw: Bwncath

Dyma 3 cân i chi wrando arnyn nhw:

Allwedd

Fel hyn ‘da ni fod

Barti Ddu

Gadewch i ni wybod pa un yw eich hoff gân drwy glicio ar y ddolen hon.