Llywodraethwyr
Cartref > Ysgol > Llywodraethwyr
Aelodau
Mrs Rhian Jones - Cadeirydd / Awdurdod Addysg Lleol
Mr Gwyn Llyn Parry - Is-Gadeirydd / Aelod Cymunedol
Mrs Lois Roberts - Awdurdod Addysg Lleol
Mrs Gwenan Jones - Rheini
Mrs Mari Tudur - Rhieni
Miss Elin Davies - Rhieni
Miss Rhian Parry - Rhieni
Mrs Lleucu Jones - Aelod Cymunedol
Mr Raymond Cotgrove - Aelod Cymunedol
Miss Nia Roberts - Aelod Cymunedol
Mrs Wilma Jones - Staff Ategol
Mrs Gwawr Howel - Staff Dysgu
Mrs Meirwen Williams - Pennaeth
Miss Gwyneth Evans - Clerc
Cyfarfod Rhieni y Llywodraethwyr
Roedd yn arfer bod yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion gynnal cyfarfod blynyddol gyda rhieni. Cafodd y gofyniad hwnnw ei ddileu gan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (y Ddeddf). Yn lle hynny, cyflwynwyd trefniadau newydd fel y bo modd i rieni ofyn am hyd at 3 cyfarfod gyda chorff llywodraethu mewn unrhyw flwyddyn ysgol, i drafod materion sy’n peri pryder iddynt. Os yw rhieni am arfer eu hawliau dan y Ddeddf i gynnal cyfarfod, bydd angen bodloni 4 gofyniad:
1. Bydd angen i rieni gyflwyno deiseb o blaid cynnal cyfarfod
Bydd angen i rieni o leiaf 10% o ddisgyblion cofrestredig yr ysgol lofnodi’r ddeiseb. Yn achos deiseb arbapur, rhaid rhoi llofnod ysgrifenedig, yn ogystal ag enw a dosbarth pob plentyn sy’n ddisgyblcofrestredig yn yr ysgol. Os yw’r ddeiseb yn un electronig, bydd angen i riant ‘lofnodi’ drwy deipio eienw a bydd rhaid rhoi enw a dosbarth pob plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol a chyfeiriad ebost pob rhiant sy’n ‘llofnodi’r’ ddeiseb electronig.Roedd 136 o blant wedi’u cofrestru gyda’r ysgol hon ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon. Gallwchgysylltu â swyddfa’r ysgol i gael gwybod yn union faint sydd ar y gofrestr ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
2. Rhaid galw’r cyfarfod i drafod materion sy’n effeithio ar yr ysgol
Ni ellir galw cyfarfod i drafod materion fel cynnydd disgyblion unigol, neu er mwyn gwneud cwyn ynerbyn aelod o staff yr ysgol neu aelod o’r corff llywodraethu. Dylai’r ddeiseb gynnwys manylion crynoam y mater(ion) i’w trafod, a’r rhesymau dros alw’r cyfarfod. Dylid dangos yr wybodaeth honno’n glir arfrig y ddeiseb, a dylai’r rhieni lofnodi oddi tani.
3. Ceir cynnal uchafswm o 3 cyfarfod yn ystod y flwyddyn ysgol
Mae’r gyfraith yn caniatáu i rieni arfer eu hawliau i ofyn am hyd at 3 cyfarfod gyda chorff llywodraethu ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol.
4. Rhaid bod o leiaf 25 o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol
Mae’n amod dan y gyfraith fod o leiaf 25 o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol pan fo’r ddeisebyn dod i law, a hynny fel y bo modd cynnal y cyfarfod. Ystyr “diwrnod ysgol” yw diwrnod pan fo’r ysgol
yn agored i ddisgyblion: nid yw’n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, gwyliau ysgol na diwrnodau Hyfforddiant mewn Swydd (HMS). Dyma’r cyfeiriad ar gyfer cyflwyno deiseb yn gofyn am gyfarfod gyda chorff llywodraethu’r ysgol: Pennaeth, Ysgol Nefyn, Ffordd Dewi Sant, Nefyn, Gwynedd. LL53 6EA