Ysgol Iach

Mae’r ysgol yn rhan o gynllun ysgolion iach y cyngor ac wedi derbyn y wobr uchaf sef y Wobr Ansawdd Genedlaethol.
Mae cynllun ‘Ysgolion Iach’ Gwynedd yn cael ei reoli mewn partneriaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gwynedd, CYNNAL ar Bwrdd Iechyd Lleol.
Mae’r cynllun yn galluogi ysgolion i gyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles eu disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.
Mae ‘Ysgolion Iach’ yn cyflwyno agweddau iechyd a lles drwy’r:-
Cwricwlwm Cenedlaethol
Cwricwlwm cudd ac ethos yr ysgol
Datblygu ar y cysylltiadau sydd yn bodoli eisoes rhwng y
cartref, y gymuned ac asiantaethau arbenigol.