Siarter Iaith Gwynedd

Y Sefyllfa Ieithyddol
Ysgol naturiol Gymraeg yw Ysgol Nefyn ac mae’r staff a’r disgyblion yn ymdrechu’n galed i gadw naws ac awyrgylch Gymreig yr ysgol. Rydym yn rhan o gynllun Siarter Iaith Cyngor Gwynedd. Ymfalchiwn yn ein Cymreictod o fewn a thu allan y dosbarth. Er hynny, parchwn eich hawl chi fel rhieni i ddefnyddio’r iaith a ddewisir gennych, ac i’r diben hwnnw, bydd pob gohebiaeth o’r ysgol yn ddwyieithog.
Siarter Iaith Ysgol Nefyn 2016-2017 - cliciwch yma