Newyddion
Ffair Nadolig
Ers sawl wythnos bellach mae plant blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn cael gwersi pêl droed gyda Gethin o Glwb Pêl Droed Porthmadog. Mae yna hen edrych ymlaen at y gwersi yn wythnosol a phawb yn ceisio ennill gwobr ‘chwaraewr yr wythnos’.
Croeso i Miss Sian Evans atom am ychydig o wythnosau i dreulio ei chyfnod ymarfer dysgu o’r brifysgol ym Mangor gyda dosbarth blwyddyn 3 a 4.
Braf hefyd oedd cael croesawu Ffion Davies atom, sydd yn cwblhau cwrs gradd yn Lerpwl, i dreulio cyfnod estynedig o brofiad gwaith gyda ni yn nosbarthiadau’r babanod. Gobeithio dy fod wedi mwynhau dy gyfnod gyda ni yma.
Ers sawl wythnos bellach mae dydd Mercher yma yn yr ysgol yn golygu un peth – diwrnod dawnsio! Yn wythnosol bydd Eirian o gwmni ‘Dawns i Bawb’ yn treulio cyfnod gyda gwahanol flynyddoedd i gynhyrchu dawns i gyd fynd gyda thema pob blwyddyn, a phawb yn chwysu chwartiau yr un ffordd.
Trydan
I gyd-fynd â’u gwaith ar drydan bu plant blynyddoedd 3 i 6 ar wibdaith i’r Mynydd Gwefru yn Llanberis. Roedd yn brofiad gwerthfawr iawn cael teithio i grombil y mynydd a chael gweld y broses o greu trydan sydd yn digwydd yno pan mae galw mawr am drydan.
Plant Mewn Angen
Er mwyn codi arian at elusen Plant Mewn Angen eleni penderfynodd aelodau’r Cyngor Ysgol y byddai’n syniad gwych i fachu ar gynllun rhaglen ‘Countryfile’ y BBC a oedd yn annog pobl a phlant i gerdded ar hyd yr arfordir er budd yr elusen. A dyna yn union a wnaethom. Aeth y Babanod ar hyd allt lan y môr a heibio Pwll William, a cychwynodd blynyddoedd 3 i 6 o’r ysgol gan fynd i Nant y Felin, yna drwy faes carafannau Aberafon, lawr y llwybr sydd yno i’r traeth, gan gerdded ar hyd y traeth a gweithio ein ffordd yn ôl i’r ysgol. Yn y diwedd llwyddom i gasglu dros £700 er budd yr elusen. Gwych! Diolch i bawb am eu haelioni.
Sul y Cofio
Yn ôl yr arfer gwnaeth rhai o blant blwyddyn 6 gymryd rhan yng Ngwasanaeth Sul y Cofio yn yr eglwys. Yn ogystal bu holl blant yr ysgol wrth y gof golofn ar ddydd Gwener yr unfed ar ddeg yn cofio, a’r plant hynaf yn gosod 49 o groesau wrth y gofgolofn. Un croes ar gyfer pob enw sydd ar y gofgolofn.
Canu Carolau
Erbyn hyn mae Nefyn wedi ei goleuo a braf oedd cael gwahoddiad unwaith eto i gymryd rhan yn yr achlysur, gyda phlant blynyddoedd 3 i 6 yn canu ambell i garol yn ddi gyfeiliant wrth y goeden ar y groes. Ffordd arbennig i ddechrau dathliadau’r ŵyl.
Erbyn hyn mae gwyliau’r Haf yn atgof pell a phawb bellach wedi hen ddechrau yn eu dosbarthiadau newydd. Gobeithio fod yr ugain o blant a’n gadawodd ddiwedd tymor yr Haf yn mwynhau ym Motwnnog. Mae chwith garw hebddoch i gyd!
Braf iawn hefyd yw croesawu dau ddeg a dau o blant bach newydd i’r dosbarth Meithrin yn ogystal â’r criw sydd wedi trosglwyddo yma o Forfa Nefyn.
Cafodd plant blynyddoedd 5 a 6 ddau ddiwrnod hynod gyffrous yng nghmwni cwmni Sound Walk. Uchafbwynt y ddau ddiwrnod oedd cael cyfle i greu eu ffilm eu hunain gan ddefnyddio gwahanol declynau cyfrifiadurol a lluniau a grewyd gan y plant. Edrychwn ymlaen i weld y cynnyrch terfynol yn fuan.
Mae wedi bod yn fis hynod o brysur a’r dyddiadur wedi bod yn orlawn.
Bu plant Blwyddyn 5 draw yng Nglan Llyn am ddwy noson yn mwynhau’r gweithgareddau yno. Amser gwerth chweil unwaith eto a phawb wedi blino’n lân yn dod adref.
Os yr oeddech yn gyrru drwy Nefyn yn ystod y mis efallai i chi ddod ar draws plant Blwyddyn 6 ar eu beiciau o gwmpas y lle. Derbyn hyfforddiant yr oedd pawb ynglyn â sut i deithio yn ddiogel ar y ffordd fawr a phawb wedi llwyddo i basio’r hyfforddiant!
I gyd fynd gyda’u thema ‘teithio’ bu plant y Cyfnod Sylfaen draw yng ngorsaf Bad Achub Porthdinllaen i weld yr orsaf a’r Bad Achub yn ei holl ogoniant. Yn wir roeddent wedi derbyn cyflwyniad hynod ddifyr cyn mynd gan Miss Caryl (sydd hefyd yn aelod o griw y Bad Achub). Diolch i bawb am y croeso.
Llwyddiant a ddaeth i ran tîm criced blynyddoedd 5 a 6 yn ddiweddar wrth iddynt ddod yn fuddugol mewn twrnament i dimau o ysgolion Dwyfor. Gwych!
Braf iawn oedd cael y cyfle i groesawu’r plant newydd a fydd yn trosglwyddo atom fis Medi, a phawb yn cael treulio’r diwrnod yn eu dosbarthiadau newydd. Ar yr un diwrnod cafodd y plant a fydd yn trosglwyddo i Fotwnnog fis Medi dreulio diwrnod yno.
Gwneud y mwyaf o’r cyfleusterau sydd wrth garreg y drws wnaeth plant Blwyddyn 6 wrth fynd draw i ganolfan Plas Heli ym Mhwllheli i gael blas ar y sesiynau hwylio sydd yno. Diolch i Ken Fitzpatricka Nick a Chloe am ddiwrnod hwyliog a difyr tu hwnt.
Cawsom ymweliad hynod bwysig gan ddeintydd lleol, Gwawr Roberts o Ddeintyddfa Penlan ym Mhwllheli. Rhoddodd gyflwyniad i holl blant yr ysgol am sut mae cadw’r dannedd yn iach a sut mae eu golchi yn ofalus. Tybed os fu cynnydd yng ngwerthiant past dannedd yn Fferyllwyr Llyn?
Arhosodd holl blant Blwyddyn 4 am noson yng ngwersyll yr Urdd yng Nglan Llyn yn ystod y mis, gan fwynhau eu hunain yn arw, gan brofi a mwynhau yr holl atyniadau cyffrous sydd gan y gwersyll i’w gynnig.
Mae’r clwb coginio wedi ail ddechrau, a’r tro yma plant blynyddoedd 1 a 2 sydd yn chwys lafar yn y gegin yn paratoi llawer o fyrbrydau blasus.
Yn ystod y mis bu llawer o wisgo gwisgoedd arbennig i nodi gwahanol ddyddiau arbennig. Penderfynodd y Cyngor Ysgol y byddai’n syniad da i gefnogi diwrnod clefyd cynghenid y galon drwy wisgo coch am y diwrnod a chyfrannu yn ariannol. Hefyd, dathlwyd dydd Gŵyl Dewi, ein nawddsant Cenedlaethol, a diwrnod y llyfr drwy wisgo i fyny i gyd fynd a’r diwrnodau.
Bu’n ddiwedd tymor hynod brysur gyda llawer o weithgareddau i ddathlu’r ŵyl.
Mynd yn ôl i’r dyfodol oedd thema ein sioe Nadolig eleni gyda phob dosbarth cyfleu’r Nadolig yn ystod gwahanol gyfnodau. Cafwyd hanes y ‘dolig cyntaf un, ‘dolig yn ystod oes Victoria, ‘dolig yn y ffosydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ‘dolig lliwgar a hwyliog yr 80au ac wrth gwrs y ‘dolig presennol.
Bu plant Blwyddyn 6 a Blwyddyn 1 draw ym Mhlas Hafan yn diddanu’r preswylwyr yno gyda ambell i garol nadoligaidd, gan gynnwys rhai o’r hen ffefrynnau Tinsel ar y goeden, Dawel nos ac I orwedd mewn preseb. Braf iawn, bob amser, yw cael y cyfle i fynd draw i Blas Hafan, a’r plant bob amser yn barod iawn i fynd ac yn wir edrych ymlaen.
Roedd sawl dyn eira, corach, carw a Sion Corn i’w weld o gwmpas yr ysgol ddiwedd y tymor, wrth i bawb wisgo eu siwmperi nadoligaidd, er mwyn codi arian ar gyfer elusen.
Cafodd plant Blwyddyn 2 a 3 brofiad arbennig iawn draw yn Eglwys Botwnnog wrth i griw Agor y Llyfr gyflwyno Stori’r Geni yno, a hynny mewn ffordd hynod effeithiol. Daeth pawb yn ôl yn llawn bwrlwm, a stori’r geni wedi ei chyflwyno iddynt mewn ffordd gofiadwy iawn.
Daeth Anti Buddug draw at blant Blwyddyn 5 i drafod a chyflwyno gwybodaeth am Nefyn yn yr oes a fu. Bu’n sesiwn ddifyr iawn ac Anti Buddug yn llawn gwybodaeth. Diolch yn fawr i chi.
Cafodd plant Blwyddyn 4 lwyddiant mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan Lyfrgelloedd Gwynedd i ddathlu diwrnod T.Llew Jones. O ganlyniad, daeth Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, i dreulio prynhawn gyda’r plant, gan fynd ati i greu darn o farddoniaeth ar y thema Nadolig. Roedd yn brynhawn hwyliog dros ben a phawb wedi mwynhau yn arw.
Cafodd plant y Cyfnod Sylfaen brofi beth sydd yn digwydd yn ystod gwasanaeth bedydd mewn eglwys. Aeth y ddau ddosbarth i’r eglwys yma yn Nefyn i weld Efa y ddol yn cael ei bedyddio. Diolch o galon i’r ficer, Richard Wood, ac Anti Buddug am y croeso ac am fod yn barod i gynnal y gwasanaeth. Hefyd, diolch am y Beibl a gafwyd fel rhodd.
Gwnaeth plant Blwyddyn 6 gymryd rhan yng ngwasanaeth Sul y Cofio yn yr eglwys. Diolch iddynt oll am gyfrannu mewn gwasanaeth mor bwysig. Yna, ar ddydd Mercher yr unfed ar ddeg aeth plant blynyddoedd 3 a 6 i gofio wrth y Gofgolofn, a gosod eu Pabi Coch i gofio.
Braf iawn oedd gweld criw helaeth o blant yn gwirfoddoli i ganu carolau ar y groes wrth fynd ati i oleuo’r goeden. Yn anffodus, nid oedd y tywydd o’n plaid, ond cafwyd canu yr un mor swynol yn y Nanhoron i roi dechrau swyddogol i ddathliadau’r ŵyl.
Daeth P.C.Owen draw i’r ysgol, gan ymweld â phob dosbarth yn ei dro. Trafododd nifer o agweddau pwysig megis ymddygiad gwrth gymdeithasol, a gwersi pwysig yn cael eu dysgu gan bawb.
Cafodd plant Blwyddyn 6 y cyfle i ymweld âg Ysgol Botwnnog yn ystod y mis i gael blas ar wahanol weithgareddau ac i ddechrau dod i adnabod pob twll a chornel o’r ysgol y byddant yn mynd iddi fis Medi nesaf. Roedd yna hen edrych ymlaen a phawb wedi mwynhau eu hunain yn arw.
Bu cynrychiolaeth dda o’r ysgol yng Ngala Nofio yr Urdd ym mhwll nofio Bangor un prynhawn Sadwrn, gyda phawb yn gwneud yn barchus iawn mewn cystadlaethau clos a chaled.
Diolch o galon i bawb a gefnogodd ein ffair Nadolig eto eleni. Cafwyd noson lwyddiannus a swm o £1500 wedi ei gasglu a fydd o fudd mawr i brynu amrywiaeth o adnoddau gwerthfawr ar gyfer holl blant yr ysgol. Diolch i aelodau’r Gymdeithas Rieni am drefnu mor effeithiol.
Croeso cynnes i Lora Thomas a Caryl Jones atom, sydd yn cynorthwyo mewn gwahanol ddosbarthiadau yn yr ysgol. Gobeithio fod y ddwy ohonoch wedi hen setlo yma. Hefyd, estynnwn yr un croeso i Mr Owain Sautin o’r brifysgol ym Mangor fydd yma gyda ni nes y ‘dolig i gwblhau rhan o’i gwrs ymarfer dysgu gyda phlant blwyddyn 5.
Daeth Rachel a gweddill criw Agor y Llyfr i gynnal amrywiaeth o weithgareddau gyda phlant blynyddoedd 5 a 6, a hynny ar y thema dewrder i gyd fynd â Chwpan Rygbi’r Byd. Bu’n fore prysur a nifer o ffeithiau newydd wedi eu dysgu am wahanol wledydd a llawer o gydweithio yn digwydd rhwng y gwahanol dimau.
Manteisiodd plant blwyddyn 3 ar y cyfle i ymweld â’r amgueddfa sydd ganddom yma yn Nefyn. Diolch i Anti Meinir am y croeso cynnes unwaith eto.
Llongyfarchiadau i Iolo, Lois ac Elain o flwyddyn 6 ar gael eu hethol yn llysgenhadon chwaraeon yr ysgol. Bydd y tri yn awr yn mynd ati i hybu chwaraeon ymhellach yn yr ysgol, yn ogystal â chydweithio gyda gwahanol asiantaethau i ddatblygu gwahanol agweddau o’r pwnc.
Mae’n siwr fod sawl un ohonoch wedi bod yn cael llawer o fyrbrydau a danteithion blasus yn dod adref gyda phlant blynyddoedd 5 a 6 yn ddiweddar, a hynny yn dilyn gweithgareddau y clwb coginio dan ofal Mrs Lois Morgan a Miss Nia Williams. Gwnaethpwyd sawl pitsa blasus, muffins a llawer o felysion i’w gwerthu yn y disgo Calan Gaeaf.
Cynhaliwyd y disgo Calan Gaeaf blynyddol a drefnwyd gan y Gymdeithas Rieni. Diolch iddynt am eu parodrwydd a’u brwdfrydedd.
Cofiwch am ein ffair Nadolig fydd yn cael ei chynnal yma yn yr ysgol rhwng 5 a 7 ar nos Iau, Tachwedd yr 19. Cyfle perffaith i ddechrau ar y siopa ‘dolig ac i gael paned a mins pei yn y broses.
Erbyn hyn mae’r gwyliau yn atgof pell a phawb wedi hen setlo yn eu dosbarthiadau newydd. Braf iawn oedd cael croesawu pawb yn ôl, yn ogystal â chroesawu sawl gwyneb newydd am y tro cyntaf. Gobeithio hefyd fod y criw a adawodd ar ddiwedd tymor yr Haf yn mwynhau yn yr ysgolion uwchradd.
Croeso cynnes i Mrs Catrin Roberts atom i weithio yn nosbarth blwyddyn 1 a 2 ac i Mrs Delyth Hughes i weithio yn nosbarth blwyddyn 6.
Manteisiodd plant blwyddyn 5 ar y tywydd godidog yr ydym wedi ei gael yn ddiweddar drwy fynd ati i gymharu traeth Nefyn gyda thraeth Abererch. Yn dilyn craffu ar nodweddion ein traeth lleol aeth y dosbarth ar y tren o Bwllheli i Abererch i edrych ar y traeth yno cyn dod yn ôl i’r dosbarth i wneud gwaith pellach.
Bu plant blwyddyn 6 ar wibdaith i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis fel sbardun cychwynnol ar eu gwaith am weddill y tymor ar gyfnod y Chwareli. Roedd yn ddiwrnod braf iawn a phawb yn dod oddi yno yn llawn gwybodaeth ac yn awchu i fynd ymlaen a’r gwaith.
Aeth plant blwyddyn 4 ati i werthu rhai o gynnyrch yr ardd ar iard yr ysgol. Gwnaethpwyd elw taclus a fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw nwyddau pellach fydd angen ei brynu ar gyfer yr ardd. Gobeithio fod y cwsmeriaid wedi eu plesio, ac y byddwch yn siwr o alw eto pan fydd y crop nesaf o gynnyrch yn barod!
Unwaith eto eleni mae aelodau’r cyngor ysgol wedi cael eu hethol a’r pwyllgor brwdfrydig eisioes wedi dechrau ar eu gwaith. Llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu hethol a phob lwc gyda’r gwaith.
Bu’n fis hynod brysur gyda llawer o weithgareddau i lenwi’r dyddiadur.
Yn ystod y mis cafodd gardd yr ysgol ei thrawsnewid diolch i nawdd gan gwmni Scottish Power, a hynny wedi i Meinir Giatgoch enwebu Ysgol Nefyn i dderbyn y nawdd. Mae’n diolch yn fawr iddi! Rydym yr un mor ddioichgar i Medwyn a’r criw a fu wrthi yn gweithio yn hynod galed yn gwneud y gwaith caib a rhaw. Bellach, mae’r ardd yn werth ei gweld ac yn adnodd gwerthfawr iawn i’r ysgol.
Mynd i’r Bala am ddwy noson oedd hanes plant bl 5 i aros yng Nglan Llyn am ddwy noson. Cafwyd tridiau gwerth chweil a phawb wedi mwynhau.
Bu aelodau’r Urdd yn cystadlu yn athletau Cylch Llŷn ym Mhwllheli. Llwyddodd Elen o fl 6 i gael cyntaf wrth daflu gwaywffon a Twm o fl 6 wedi cael trydydd wrth redeg yn y ras fer, gyda’r ddau yn ennill eu lle ym Mangor. Hefyd, cafodd Cai o fl 3 drydydd wrth daflu gwaywffon. Da iawn bawb.
Cafodd sawl un flas ar chwarae criced yn ystod y mis ,a hynny mewn clwb criced ar ôl ysgol a oedd yng ngofal Mr Jones. Uchafbwynt yr ymarferion oedd cymryd rhan mewn cystadleuaeth ym Modegroes.
Bu plant bl 6 draw yn yr ysgolion uwchradd y byddant yn fynychu ym mis Medi yn ystod y mis. Wrth reswm roedd ambell i stumog yn troi, ond cafwyd amser da a phawb yn awr yn edrych ymlaen at fis Medi.
Nôl yn Nefyn, cafodd pawb arall gyfle i symud i’w dosbarthiadau newydd am y dydd. Braf iawn oedd cael croesawu, am y diwrnod, yr holl blant newydd fydd yn trosglwyddo atom fis Medi i wahanol ddosbarthiadau. Gobeithio fod pawb wedi mwynhau.
Cynhaliwyd athletau’r dalgylch yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor ar gyfer plant bl 3 a 4, a 5 a 6 yr wythnos ganlynol. Roedd yn gyfle gwych i fwynhau y gwahanol weithgareddau ac i gymdeithasu gyda phlant o ysgolion eraill y dalgylch.
Efallai fod ambell un ohonoch wedi clywed cnoc fach ysgafn ar y drws yn ddiweddar yn gofyn am nawdd. Wel, braf yw dweud fod pawb wedi cwblhau’r daith gerdded noddedig a drefnwyd gan y Gymdeithas Rieni, gyda’r babanod yn cerdded i Bwll William ag yn ôl, bl 3 a 4 i’r Cliffs ag yn ôl, a 5 a 6 i Borthdinllaen ag yn ôl. Cafwyd diwrnod godidog, a diolch i bawb am unrhyw nawdd a roddwyd.
Yn ôl yr arfer aeth y timau rownderi a phêl droed i dwrnament y dalgylch yn Edern. Cafwyd diwrnod llawn cystadlu iach. Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Crud y Werin am ennill y rownderi, ac i Ysgol Sarn Bach am ddod yn fuddugol gyda’r pêl droed.
Caerdydd
Treuliodd plant blwyddyn 6 dri diwrnod llawn bwrlwm yng Nghaerdydd yn ystod y mis, gan aros yng ngwersyll yr Urdd yn y Bae. Cafwyd tridiau gwerth chweil yno yn ymweld â gwahanol atyniadau’r ddinas; Stadiwm y Mileniwm, Techniquest, Y Senedd, yn ogystal â thaith ar gwch cyflym o gwmpas y Bae. Cyn cyrraedd y ddinas fawr cawsom seibiant yn ninas Abertawe wrth ymweld â’r Amgueddfa forwrol a’r pwll nofio hwyliog sydd yno. Cawsom gwmni plant bl 6 ysgolion Pentreuchaf, Sarn Bach, Llanbedrog a Chwilog ar y daith, a oedd yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Amser gwirioneddol wych!
Ras am fywyd / Race for life
Roedd pinc yn liw poblogaidd yn ddiweddar, wrth i bawb wisgo unrhyw ddilledyn yn y lliw yma, a hynny er mwyn cefnogi Anni o flwyddyn 5 a redodd y Ras am fywyd / Race for life yng Nghaernarfon. Da iawn ti Anni a phawb arall am gefnogi.
Torri Gwallt
Cael torri ei gwallt oedd hanes Eleni o flwyddyn 1, ond nid mewn siop trin gwallt arferol, ond yn hytrach yn neuadd yr ysgol o flaen ei chyfoedion i gyd, gan dorri sawl modfedd o’i gwallt o flaen pawb. Penderfynodd Eleni wneud hyn er mwyn codi arian i ymddiriedolaeth The Little Princess ac i roi y gwallt a dorrodd i’r elusen i greu gwallt gosod. Da iawn ti Eleni.
Yr Ail Ryfel Byd
Cafwyd dau gyflwyniad hynod ddifyr gan Mr John Dilwyn Williams. Treuliodd amser gyda dosbarth bl 6 yn gyntaf er mwyn cyflwyno gwahanol arteffactau o gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Yna, mynd at ddosbarthiadau blynyddoedd 3 a 4 wnaeth Mr Williams i drafod sut gartrefi fyddai wedi bod yn oes y Tuduriaid. Diolch yn fawr iddo am rannu ei stôr o wybodaeth gyda ni.
Recordio Rap
Bu llond bws o blant draw yn stiwdios Pant yr Hwch ym Mhentreuchaf, a hynny er mwyn recordio ein rap ar gyfer cryno ddisg fydd yn cael ei ryddhau (gyda chyfraniadau gan amryw o ysgolion yr ardal arni), er mwyn dathlu a nodi 150 o flynyddoedd ers taith y Mimosa i Batagonia a sefydlu’r Wladfa yno.
Castell Gwydir
Mynd yn ôl i gyfnod y Tuduriaid fu hanes plant blynyddoedd 3 a 4 y mis yma, pan aethant ar wibdaith i Gastell Gwydir Llanrwst a Phlas Mawr, Conwy, fel sbardun cychwynnol ar gyfer eu gwaith am weddill y tymor ar gyfnod y Tuduriaid.
Ailgylchu
Tyrchu yn y biniau ailgylchu fu’n rhaid gwneud yn ystod y tymor er mwyn creu cywaith ysgol gyfan allan o ddeunyddiau ailgylchu ar gyfer Sioe Nefyn. Diolch yn fawr iawn i Carol, Catrin a Delyth (rhieni) am eu hamser. Bu’r dair yn gweithio gyda phob dosbarth a phob un o’r plant o’r Meithrin i flwyddyn 6 yn cael rhoi eu marc ar y cywaith sydd yn werth ei weld.
Cit pêl droed newydd
Cafodd y cit pêl droed newydd ei dynnu allan am y tro cyntaf yn ddiweddar pan aeth tîm pêl droed bl 5 a 6 cangen Urdd yr ysgol i gystadlu mewn twrnament ym Mhorthmadog, a phob un o aelodau’r tîm wedi mwynhau yn arw.
Dawnsio
Yn dilyn wythnosau o ddawnsio cafodd pawb y cyfle i weld ffrwyth llafur plant yr adran Iau wrth iddynt berfformio eu dawnsfeydd ar y thema ‘Patagonia’. Diolch i Eirian o gwmni ‘Dawns i bawb’.
Rygbi a Hoci
Yn dilyn ail drefnu, cafodd plant bl 3 a 4 gymryd rhan yn nhwrnament rygbi a hoci dalgylch ysgolion Botwnnog ym Modegroes. Cafwyd diwrnod difyr yng nghanol yr heulwen.
Llwyddiant yn Yr Urdd
Llongyfarchiadau mawr i Math, Beti, Shannon a Magi o flwyddyn 2 am ddod yn ail drwy Gymru gyfan yn un o gystadlaethau celf a chrefft yr Urdd, gyda’u model 3d o Gennin Pedr. Hefyd, llongyfarchiadau i Gwion o flwyddyn 2 am ddod yn drydydd drwy Gymru gyfan gyda’i brint monocrom. Gwych bawb! Felly, os y byddwch yn mynd lawr am Gaerffili i’r Eisteddfod, cofiwch bicio fewn i’r babell Gelf a Chrefft i gael gweld cipolwg ar y Cennin Pedr a’r print!
Croeso
Croeso cynnes i Miss Sioned Thomas atom i’r ysgol. Gobeithio dy fod wedi hen setlo yma.
Gala Nofio
Roedd cyffro blynyddol y gala nofio yn ei anterth fore olaf y tymor, pan aeth criw o nofwyr chwim o Fl 4, 5 a 6 i gystadlu yng ngala nofio ysgolion Dwyfor, gyda’r ysgol yn dod yn ail yn y categori i ysgolion dros 80 o ddisgyblion. Da iawn.
Chwaraeon
Yn wir, mae llawer o weithgareddau corfforol wedi digwydd yn ystod y mis, gyda chwmni ‘Dawns i bawb’ wedi bod yn dod draw yn wythnosol i ddawnsio gyda’r Adran Iau. Hefyd bu disgyblion Bl 5 a 6 draw ym Modegroes yn nhwrnament rygbi a hoci i ysgolion dalgylch Botwnnog.
Artist
Braf iawn oedd cael croesawu Anti Joy (Mrs Joy Brown) yn ôl i’r ysgol, y tro yma, yng nghwmni artist dawnus o’r enw Dickson o ddinas Nairobi, Kenya. Cafodd pob dosbarth gyfle i weithio gyda Dickson yn ystod y ddau ddiwrnod y bu yma i greu darn o waith celf dan ei arweiniad.
Yoga
Ymlacio fu hanes pawb yn rhai o sesiynau’r Urdd yn ddiweddar, wrth i Anti Karen gynnal sesiynau Yoga. Cafwyd sesiynau difyr a pawb yn ysu am gael mwy o’r sesiynau. Diolch i Anti Karen am ei hamser.
Yr Urdd
Cafwyd cryn lwyddiant eleni yng nghystadlaethau celf a chrefft yr Urdd, gyda sawl eitem yn ennill yn y cylch. Da iawn i bawb! Llwyddodd Magi, Beti, Math a Shannon o Flwyddyn 2 i gael 1af yn y cylch a’r sir gyda’u model 3d o Gennin Pedr. Hefyd, mae print monocrom Gwion o Fl 2 wedi ennill ei le yn y genedlaethol. Pob lwc i chi!
Diffyg ar yr Haul
Fel y gwyddoch, roedd Mawrth yr 20fed eleni yn ddiwrnod tra hanesyddol oherwydd y diffyg ar yr Haul. Er mwyn nodi’r achlysur aeth yr ysgol gyfan allan ar y cae ar fore’r ugeinfed, a drwy gadw at reolau diogelwch caeth a defnyddio llawer o ‘golinders’ yr ardal cawsom weld y Lleuad yn gorchuddio’r Haul. Diolch i holl ddisgyblion Bl 5 a 6 am egluro’r broses mor effeithiol i’r plant ieuengaf.
Cit Newydd
Bellach mae gan yr ysgol git newydd sbon i’w ddefnyddio mewn gwahanol dwrnamentau chwaraeon, a hynny diolch i nawdd gan gwmni y Principality. Rydym fel ysgol yn hynod ddiolchgar i’r cwmni, a’r plant yn edrych ymlaen i’w gwisgo mewn gwahanol dwrnamentau yn ystod y misoedd nesaf.
Sioe
Gawsoch chi erioed eich ‘dala gan y brodyr bach’ ar S4C? Wel, daeth y ddau frawd - y brodyr Gregory’, draw i’r ysgol yn ystod y mis i gyflwyno sioe fywiog iawn ac i ddygsu gwers bwysig i bawb am bwysigrwydd ailgylchu a gadael sbwriel yn y bin cywir.
Arwyr
Arwyr yw thema dosbarth Blwyddyn 5 y tymor yma, ac yn wir mae gan sawl un bellach arwres newydd yn dilyn ymweliad Elin Haf Davies a’r ysgol un bore Llun. Llwyddodd Elin i rwyfo ar draws Môr yr Iwerydd mewn 77 diwrnod. Roedd yn fore hynod ddifyr a phawb yn llawn bwrlwm yn dilyn yr ymweliad.
Gymnasteg
Bu Aerona a Lois o Flwyddyn 5 yn cystadlu yn nghystadleuaeth Gymnasteg Eryri yr Urdd yng Nghaernarfon yn ddiweddar gan roi perfformiad taclus a chrefftus iawn. Da iawn chi genod!
Urdd
Mae gweithgareddau yr Urdd wedi ail gychwyn ar ôl gwyliau’r Nadolig. Cawsom fwynhau sesiwn o gemau bwrdd un noson yn ogystal â gêm o fingo ar noson arall. Bellach mae pawb wrthi yn brysur yn y sesiynau yn paratoi tuag at y cystadlaethau celf a chrefft.
Raffl
Efallai i rai ohonoch brynu ticed raffl y ‘raffl fawr’ cyn y Nadolig gan aelodau Cymdeithas Rieni yr ysgol.Yr enillwyr oedd Elizabeth Jones a enillodd y wobr gyntaf ac felly yn ennill £100, Robat Hughes yn ail gan ennill £50 a Dwynwen Hughes yn drydydd gan ennill £25. Dymuna’r Gymdeithas Rieni a phawb yma yn yr Ysgol ddiolch o galon i’r holl fusnesau lleol a gefnogodd y raffl drwy gyfrannu tuag at yr holl wobrau, ac i bawb a aeth i’w pocedi i brynu ticed. Diolch yn fawr.
Ymweliad Elin Haf Davies
Arwyr yw thema dosbarth Blwyddyn 5 y tymor yma, ac yn wir mae gan sawl un bellach arwres newydd yn dilyn ymweliad Elin Haf Davies a’r ysgol un bore Llun. Llwyddodd Elin i rwyfo ar draws Môr yr Iwerydd mewn 77 diwrnod. Roedd yn fore hynod ddifyr a phawb yn llawn bwrlwm yn dilyn yr ymweliad.
Gymnasteg
Bu Aerona a Lois o Flwyddyn 5 yn cystadlu yn nghystadleuaeth Gymnasteg Eryri yr Urdd yng Nghaernarfon yn ddiweddar gan roi perfformiad taclus a chrefftus iawn. Da iawn chi genod!
Urdd
Mae gweithgareddau yr Urdd wedi ail gychwyn ar ôl gwyliau’r Nadolig. Cawsom fwynhau sesiwn o gemau bwrdd un noson yn ogystal â gêm o fingo ar noson arall. Bellach mae pawb wrthi yn brysur yn y sesiynau yn paratoi tuag at y cystadlaethau celf a chrefft.
Raffl
Efallai i rai ohonoch brynu ticed raffl y ‘raffl fawr’ cyn y Nadolig gan aelodau Cymdeithas Rieni yr ysgol.Yr enillwyr oedd Elizabeth Jones a enillodd y wobr gyntaf ac felly yn ennill £100, Robat Hughes yn ail gan ennill £50 a Dwynwen Hughes yn drydydd gan ennill £25. Dymuna’r Gymdeithas Rieni a phawb yma yn yr Ysgol ddiolch o galon i’r holl fusnesau lleol a gefnogodd y raffl drwy gyfrannu tuag at yr holl wobrau, ac i bawb a aeth i’w pocedi i brynu ticed. Diolch yn fawr.
Mae wedi bod yn fis prysur yma, a gweithgareddau a bwrlwm y Nadolig wedi dechrau. Dechreuwyd y dathliadau gyda’r ffair grefftau flynyddol a braf iawn oedd gweld y neuadd yn orlawn. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth ac i’r Gymdeithas Rieni am drefnu mor effeithiol.
Parhau wnaeth y dathliadau ar nos Wener olaf mis Tachwedd wrth i griw mawr o ddisgyblion Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 ymgynull ar y groes i ganu casgliad o garolau cyn mynd ati i oleuo’r groes a chael ambell i fins pei i groesawu’r wyl.
Bu aelodau Cangen Urdd yr ysgol hefyd yn brysur iawn yn ystod y mis aeth heibio. Cafwyd cwis ar gyfer Blynyddoedd 2,3 a 4 gyda Ioan, Tomos Jac a Trystan yn dod yn fuddugol. Yr wythnos ganlynol Blwyddyn 5 a 6 fu wrthi yn crafu pennau yn y cwis, gyda Twm a Morgan yn dod yn fuddugol. Hefyd bu tîm pêl droed yr Urdd Blynyddoedd 3 a 4, yn ogystal â thîm Blwyddyn 5 a 6 mewn twrnament yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor ar gyfer canghennau Urdd Llyn, a’r ddau dîm yn gwneud yn dda iawn. Yn ogystal bu sawl aelod o’r Gangen draw ym mhwll nofio Bangor un prynhawn Sadwrn i gystadlu yng Ngala Nofio yr Urdd. Cystadlodd pawb yn dda iawn, a phawb wedi cael amser parchus. Yn sicr mae ganddom sawl pysgodyn chwim yn yr ysgol.
Cymerodd disgyblion Blwyddyn 6 ran yng ngwasanaeth Sul y Cofio yn yr Eglwys yn ogystal â gosod pabi coch yr un ar y gofgolofn. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.
Yn ôl yr arfer cynhaliwyd gwahanol weithgareddau i godi arian at ddiwrnod plant mewn angen. Talodd pawb ddirwy am wisgo dillad eu hunain, yn ogystal â thalu am gacennau blasus iawn, paentio gewinedd a llawer o weithgareddau eraill. Roedd y neuadd yn llawn bwrlwm yn ystod y prynhawn.
Bu sawl ymwelydd draw yn yr ysgol yn ystod y mis. Daeth PC Owen draw at bob dosbarth yn ei dro i drafod gwahanol agweddau o’i waith – megis ymddygiad gwrth gymdeithasol, rheolau a pharch.
Cafwyd diwrnod difyr iawn. Hefyd cafodd disgyblion Blwyddyn 2 a 5 ymweliad gan Lance Owen-Williams, Swyddog o`r Gwasanaeth Tân i drafod sut i edrych ar ôl ein cartrefi, a gwaith y gwasanaeth tân.
Mae Swyddogion y Cyngor Ysgol bellach wedi eu hethol am eleni. Llongyfarchiadau mawr i Cyle ac Elen o Flwyddyn 6, Aerona, Rebecca a Rhys o Flwyddyn 5, Alfie a Shiwan o Flwyddyn 4, Ioan a Llio o Flwyddyn 3, Marcey a Gwion o Flwyddyn 2, ac Eleni ac Iwan o ddosbarth Miss Williams. Da iawn bawb! Mae cyfarfod cyntaf y Cyngor wedi bod, a phawb yn llawn syniadau am sut i ddatblygu’r ysgol.
Yn ystod y mis manteisiodd dosbarthiadau Blynyddoedd 3 a 4 ar y cyfle i gael ymweld ag Amgueddfa Forwrol Llŷn yma yn Nefyn. Cafwyd boreau difyr wrth i ni ddysgu am wahanol hanesion a cael gweld yr arteffactau dros ein hunain. Diolch i staff yr Amgueddfa am y croeso ac am eu brwdfrydedd.
Mae disgyblion Blwyddyn 1 bellach i’w gweld yn crwydro o gwmpas Nefyn yn wythnosol er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o reolau diogelwch y ffyrdd. Diolch i Paula Owen, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Gwynedd, ac i Rieni disgyblion Blwyddyn 1 am eu parodrwydd i gynorthwyo.
Bu dosbarth Blwyddyn 6 ar wibdaith i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis, fel sbardun ar gyfer eu gwaith ar gyfer gweddill y tymor ar gyfnod y Chwareli. Cafwyd diwrnod hynod ddifyr yn mynd o gwmpas y gwahanol atyniadau ac yn dysgu am y ffordd o fyw yn y cyfnod.
Yn wythnosol bellach mae Gethin o Glwb Pêl droed Wrecsam wedi bod yn dod at ddisgyblion Blwyddyn 6 fel rhan o gynllun gan y Clwb i annog a datblygu llythrennedd. Mae Gethin yn treulio cyfnod yn y dosbarth yn cwblhau gwahanol weithgareddau llythrennedd gyda’r disgyblion, ac yna ceir sesiwn hwyliog a chaled iawn ar y cae yn ymarfer gwahanol sgiliau pêl droed.
Braf iawn oedd cael croesawu Anti Nia, ac Anti Barbara a’i chriw i’r ysgol unwaith eto i gynnal gwasanethau boreuol. Diolch i chi gyd am wasanaethau hynod hwyliog. Mae yna hen edrych ymlaen at y rhai nesaf rwan.
Dyna ni wyliau Haf arall wedi gwibio heibio a ninnau bellach wedi croesawu 18 o blant newydd i’r dosbarth Meithrin yn y boreau, a 17 arall drwy’r dydd i’r dosbarth Derbyn.
Gobeithio fod y 22 o ddisgyblion Blwyddyn 6 a adawodd ddiwedd tymor yr Haf bellach wedi hen setlo ym Motwnnog a Glan y Môr ac yn mwynhau eu hunain yn eu hysgolion newydd. Pob lwc i chi gyd! Mae’n rhyfedd iawn yma hebddoch o gwmpas y lle.
Yn ogystal gwnaethom ffarwelio gyda Anti Carys ddiwedd tymor yr Haf. Pob lwc i chi Anti Carys yn eich swydd newydd, a gobeithio fod y gath wedi hen setlo yn yr ardd!
Croeso cynnes i Miss Lois Morgan atom fel Athrawes Blwyddyn 3. Gobeithio y byddwch wrth eich bodd yma gyda ni.
Bu diwedd tymor yr Haf yn un hynod brysur yn ôl yr arfer gyda thripiau a thwrnamentau di-ri. Aeth yr ysgol gyfan ar wibdaith i Borthdinllaen yn ystod yr wythnos olaf i ymweld a’r cwt newydd. Roedd yn ddiwrnod chwilboeth a phawb wedi mwynhau gweld y cwt yn ei holl ogoniant a chael troedio ar fwrdd y John.D.Spicer. Diolch yn fawr i griw y bad achub am y croeso cynnes.
Daeth cryn lwyddiant i dîmau chwaraeon yr ysgol yn ystod wythnosau diwethaf y tymor hefyd. Enillodd un o dîmau pêl droed yr ysgol yn nhwrnament dalgylch Botwnnog yn Edern, ac ar yr un diwrnod daeth y tîm rownderi yn fuddugol yn nhwrnament y dalgylch. Roedd pawb wedi gwirioni yn lan, fod y tariannau yn Nefyn am flwyddyn arall!