Ysgol Iach / Werdd
Cartref > Ysgol > Ysgol Iach / Werdd
Ysgol Iach
Mae’r ysgol yn rhan o gynllun ysgolion iach y cyngor ac wedi derbyn y wobr uchaf sef y Wobr Ansawdd Genedlaethol.
Mae cynllun ‘Ysgolion Iach’ Gwynedd yn cael ei reoli mewn partneriaeth gyda Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, Cyngor Gwynedd, CYNNAL ar Bwrdd Iechyd Lleol.
Mae’r cynllun yn galluogi ysgolion i gyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles eu disgyblion, athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.
Mae ‘Ysgolion Iach’ yn cyflwyno agweddau iechyd a lles drwy’r:-
- Cwricwlwm Cenedlaethol
- Cwricwlwm cudd ac ethos yr ysgol
- Datblygu ar y cysylltiadau sydd yn bodoli eisoes rhwng y cartref, y gymuned ac asiantaethau arbenigol.
Addysg Gorfforol a gemau yn Ysgol Nefyn
Bydd disgyblion yr ysgol yn mwynhau amrywiaeth eang o brofiadau Addysg Gorfforol. Darperir cyfleoedd a fydd yn eu galluogi i gynllunio, i gymryd rhan ac i werthuso amrywiaeth o weithgareddau sy’n briodol i’w hoed a’u hanghenion. Yn ogystal â gwella sgiliau corfforol, iechyd a ffitrwydd ein plant credwn fod datblygu gwerthfawrogiad o chwarae teg a chystadleuaeth onest yn hanfodol bwysig. Byddwn yn annog pawb sydd yn gysylltiedig â’r ysgol i fabwysiadu ymrwymiad gydol oes i ffordd iach, weithgar a phleserus o fyw.
Disgwylir i’r disgyblion wisgo trowsus byr a chrys ‘T’ gydag esgidiau ysgafn ar gyfer y gwersi Addysg Gorfforol gan ddod a hwy i’r ysgol fore Llun a’u dychwelyd adref ar ddiwedd pob wythnos. Os bydd plentyn yn dymuno cael ei esgusodi o wersi Addysg Gorfforol am resymau meddygol rhaid cael nodyn gan ei riant / warchodwr.
Gwersi Nofio
Mae'r ysgol yn trefnu gwersi nofio ar gyfer plant yr ysgol i gyd ar gyfartaledd am gyfnod o dymor ar y tro.
Fe fydd bob plentyn angen gwisg nofio a thywel ar y dydd.
Gofynnwn yn garedig i’r rhieni gyfrannu £3 tuag at gostau cludiant y plant i’r pwll nofio.
Ysgol Werdd
Mae’r ysgol yn rhan o’r cynllun Eco Ysgolion sy’n hyrwyddo edrych ar ôl yramgylchedd lleol a’r byd ehangach. Nod y cynllun yw addysgu hyn i’r plant fel ‘ffordd o fyw’ cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’r Cyngor Eco yn arwain ar y cynllun o fewn yr ysgol.