Siarter Iaith
Cartref > Ysgol > Siarter Iaith
Y Sefyllfa Ieithyddol
Categori 3 – Ysgol Cyfrwng Cymraeg
Cymraeg yw’r brif Iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn Ysgol Nefyn. Byddwn yn cyfathrebu â rheini a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae ethos Gymraeg cadarn yn yr ysgol a byddwn yn cefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a thu allan iddi.
Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu’n llawn yn y Gymraeg gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar.
O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol y dysgwr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.