Gweledigaeth a Gwerthoedd yr Ysgol
Cartref > Ysgol > Gweledigaeth a Gwerthoedd yr Ysgol
Cefndir
Mae Ysgol Gynradd Nefyn wedi ei lleoli yn nhref fechan Nefyn, ar arfordir gogleddol Pen Llŷn yng Ngwynedd. Mae’n gwasanaethu’r dref a’r ardaloedd gwledig cyfagos gan ddarparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae disgyblion o Ysgol Morfa Nefyn yn ymuno â’r ysgol ym Mlwyddyn 4. Mae 143 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, ac mae chwe dosbarth, gyda phedwar ohonynt o oedrannau cymysg, yn yr ysgol. Mae 14% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Mae 15% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol.
Gweledigaeth Ysgol Nefyn
Ein arwyddair yn Ysgol Nefyn yw: “Angor gadarn cyn hwylio’r don”
Ein nod yma yn Ysgol Nefyn yw:
- Creu disgyblion annibynnol, mentrus a chreadigol.
- Creu ysgol hapus a chroesawgar sy’n sicrhau disgyblion iach a hyderus.
- Datblygu disgyblion gonest, teg, parchus ac ymdrechgar – nodweddion a fydd yn allweddol i’w harwain ar hyd eu taith mewn bywyd.
- Sicrhau addysg o’r ansawdd orau bosibl i bob plentyn yn unol â'u hoedran, eu gallu a'u diddordebau er mwyn iddynt dyfu yn bersonoliaethau llawn, datblygu ac ymarfer yr holl ddoniau a chymhwyso eu hunain i fod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog.
AMCANION CYFFREDINOL YSGOL NEFYN
- Creu amgylchedd ac awyrgylch lle gall plentyn dyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolyn hyderus, yn ymwybodol o les eraill ac yn aelod cyfrifol o'r gymdeithas.
- Cynnig addysg o'r ansawdd uchaf posibl sydd yn adlewyrchu gofynion yr unigolyn, y gymdeithas, yr Awdurdod Addysg a'r cwricwlwm.
- Galluogi pob disgybl ddatblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg fel y gallent gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y gymdeithas ddwyieithog.
- Sefydlu awyrgylch hapus a gweithgar yn seiliedig ar gydberthynas o barch a gofal, rhwng staff â'i gilydd, staff a disgyblion a disgyblion â'i gilydd, sydd yn galluogi disgyblion i ymagweddu'n gadarnhaol a datblygu hunan hyder.
- Sicrhau bod plant yn cael cyfleoedd creadigol, amrywiol a diddorol trwy ddarparu ar eu cyfer gwricwlwm sy'n berthnasol, yn wahaniaethol ac yn eang a chytbwys.
- Sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn aelod pwysig o gymdeithas ddisgybledig.
- Sicrhau bod gwerthoedd moesol, ysbrydol a dyngarol yn cael eu harddangos trwy esiampl ym mywyd a gwaith yr ysgol.
- Meithrin parch a goddefgarwch at bobl o bob cefndir, cred a diwylliant.
- Sicrhau cyfleoedd cyfartal.
- Meithrin yn y plant falchder at eu bro a'u gwlad a datblygu ynddynt barch at y byd maent yn byw ynddo, yn gyffredinol ac yn arbennig yng nghyd-destun eu bro a'u hamgylchedd.
- Meithrin cysylltiadau iach rhwng ysgol a chartref.
Bum yn gwrando ar farn dysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned leol
Dyma’r geiriau gododd amlaf wrth drafod ein gweledigaeth:
Cynhwysol
Hyderus
Mentro
Lles
Parch
Diogel
Teulu
Cymreig
Gonest
Hapus
Cartrefol
Cydraddoldeb
Cyfeillgar
Creadigol
Chwilfrydig