Y Gymuned
Cartref > Y Gymuned
Ymfalchiwn mewn perthynas agos â’r gymuned. Cydweithiwn yn agos gyda’r Cyngor Tref i sicrhau fod gan y plant fewnbwn yn natblygiad eu hardal.
Ein nôd yw :-
- Galluogi pob unigolyn i feithrin gwybodaeth, agweddau a sgiliau sy`n berthnasol i fywyd mewn byd sy`n prysur newid.
- Annog cyswllt rhwng yr ysgol hon ac ysgolion eraill, diwydiant a masnach er mwyn datblygu dealltwriaeth y plentyn o fywyd economaidd ei ardal.
- Annog yr ysgol i hyrwyddo cysylltiadau â`r gymuned leol a chymdeithas yn gyffredinol, trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol.
- Cynnwys elfen o weithgareddau hamdden ym mhrofiad addysgol pob plentyn fel y gallant ddefnyddio`u oriau hamdden yn greadigol ac i bwrpas.