Polisi Presenoldeb a Phrydlondeb

Cartref > Rhieni > Presenoldeb a Gwyliau > Polisi Presenoldeb a Phrydlondeb

Presenoldeb ac Absenoldebau

Mae gan yr ysgol ddyletswydd i sicrhau bod disgyblion yn mynychu’n rheolaidd. Yn unol â rheolau’r Cynulliad, mae’n rhaid i bob ysgol wahaniaethu rhwng absenoldeb awdurdodedig (salwch, ymweld â’r doctor a.y.y.b.) ac absenoldebau heb awdurdod. Gofynnwn i chwi adael i’r ysgol wybod am bob absenoldeb drwy nodyn, alwad ffôn neu e-bost. Er diogelwch, bydd yr ysgol yn ffonio’r cartref ar ddiwrnod cyntaf absenoldeb os na dderbynnir neges.

Absenoldebau awdurdodedig

Mae hyn yn cynnwys salwch neu apwyntiad meddygol. Mae modd hefyd gofyn am hyd at ddeng niwrnod o wyliau mewn un flwyddyn ysgol. Mae’r Pennaeth yn ystyried y ceisiadau hyn ar sail unigol. Rydym yn annog rhieni’n gryf i beidio â thynnu eu plant allan yn ystod y flwyddyn ysgol gan fod parhâd yn bwysig i sicrhau dysgu effeithiol.

Anawdurdodedig

Cofnodir unrhyw absenoldebau heb eu hesbonio fel rhai anawdurdodedig. Mae cofnodion am bresenoldeb yn cael ei gadw a’i fonitro gan yr Awdurdod Addysg Lleol.
 
Mae gan Swyddog Llês Addysg yr awdurdod hawl i ymweld â chartrefi unrhyw rieni yr ystyrir bod ffigyrau presenoldeb eu plentyn yn bryder i’r ysgol a’r AALl.

PRESENOLDEBAU AM Y FLWYDDYN Medi 2023 - Mai 2024

Presenoldeb - 94%
Absenoldebau wedi eu awdudodi - 5.8%
Absenoldebau anawdurdodedig - 0.2%