CRhA

Cartref > Rhieni > CRhA

Mae gennym gymdeithas rieni lewyrchus yn yr ysgol. Hoffem feddwl bod y Gymdeithas yn cyflawni tri peth:

  1. Codi arian ar gyfer yr ysgol.
  2. Bod yn fforwm i drafod rhai materion strategol yr ysgol e.e. gwisg ysgol, holiaduron rhieni, meysydd i’w datblygu.
  3. Bod yn gyfrwng i rieni / gwarchodwyr, yn arbennig i rieni newydd  i ddod i adnabod ei gilydd yn well.

Mae’r gymdeithas yn cyfarfod unwaith y tymor er mwyn trefnu digwyddiadau codi arian ar gyfer yr ysgol. Cynhelir cyfarfod cyntaf o’r gymdeithas yn gynnar yn nhymor yr Hydref. Mae croeso cynnes i bob rhiant ymuno â’r gymdeithas.