Polisïau
Cartref > Gwybodaeth > Polisïau
Polisïau Ysgol Nefyn
Amcanion Cyffredinol
Mae Awdurdod Addysg Gwynedd yn gweithredu polisi dwyieithog trwy holl ysgolion Gwynedd.
Yr amcan yw datblygu gallu disgyblion a myfyrwyr y sir i fod yn hyderus ddwyieithog er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o'r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.
Dylai holl sefydliadau addysg y sir adlewyrchu ac atgyfnerthu'r polisi iaith yn eu gweinyddiad, eu bywyd cymdeithasol a'u trefn fugeiliol yn ogystal ag yn eu darpariaeth academaidd.
Yn llawn amser ym mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed ac ym mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed yn y boreau yn y Dosbarth Meithrin.
Mae’r ysgol hefyd yn derbyn plant o Ysgol Babanod Morfa Nefyn ym Mlwyddyn 4. Byddwn yn sicrhau cyswllt agos gyda Ysgol Morfa Nefyn er mwyn sicrhau bod y trosglwyddiad yma o un ysgol i`r llall yn un naturiol ac esmwyth.
Er mwyn gwneud cais dylid cysylltu gyda adran Mynediad Ysgolion Cyngor Gwynedd:
Ffôn: 01286 679904 neu ebost mynediadysgol@gwynedd.gov.uk / schooladmission@gwynedd.gov.uk
Y mae corff llywodraethol Ysgol Nefyn yn cydnabod pwysigrwydd mabwysiadu polisi cyffuriau er mwyn diogelu pawb yng nghymuned yr ysgol rhag problemau sy`n deillio o`r camddefnydd o gyffuriau, alcohol a thybaco yn ein cymdeithas.
Yn unol â pholisi Awdurdod Addysg Gwynedd, mae Ysgol Gynradd Nefyn yn ystyried bwlio yn fater o gonsyrn a allai effeithio’n uniongyrchol ar holl naws ac ethos yr ysgol.
Nid yw’r ysgol yn goddef bwlio ar unrhyw ffurf ac fe gymerir camau pendant i geisio sicrhau na fydd yr un plentyn dan ein gofal yn gorfod dioddef effeithiau bwlio.
Rydym fel ysgol yn datgan ac yn cydnabod y canlynol -:
• Bod bwlio yn bodoli yn y byd ac y gall fynegi ei hun ar sawl ffurf e.e. corfforol, geiriol,emosiynol.
• Dylid delio gyda unrhyw achos o fwlio cyn gynted â phosibl.
• Mae gennym gamau pendant i’w dilyn.
• Bod ‘dioddefwr’ a ‘bwli’ ym mhob achos. Dylid ymdrin a’r ddwy ochr i’r stori.
Nôd ac amcan Ysgol Nefyn yw cyflwyno addysg gyflawn i bob disgybl er mwyn ei baratoi a hyrwyddo`i ddatblygiad i fod yn unigolyn cytbwys a chanddo feddwl agored.
. Ystyrir fod pob unigolyn yn gyfartal â rhoddir parch i bob un yn ôl ei allu, ei gyrhaeddiad a`i ddawn arbennig.
. Mae gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, diwylliant, lliw, dosbarth, iaith, anabledd corfforol neu allu addysgol yn hollol annerbyniol.
. Ceir awyrgylch ble ceir y parch dyledus at gefndiroedd a phrofiadau holl ddisgyblion a staff yr ysgol.
Datganiad
Cydnabyddwn bod ein plant yn tyfu i fyny mewn cymdeithas eang a nodweddirgan wahaniaethau, nid yn unig mewn hil ond crefydd, gwisg, bwyd ac iaith sy`nadlewyrchu`r newidiadau cyfoes hyn.
Anelwn, felly, at adlewyrchu`r gwahaniaethau hyn ac ehangu ar addysg yr hollddisgyblion i`w galluogi i ddeall a gwerthfawrogi natur aml-ddiwylliannol amrywiolgymdeithasau.
Mae`r Corff Llywodraethol, mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, yn annog arferion da sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal yn yr ysgol.
Cyd-gysylltydd Iechyd a Diogelwch yr ysgol hon yw`r Pennaeth.
Mae gan yr ysgol bolisi sy’n sicrhau ein bod yn darparu a chynnal amgylchiadau gwaith diogel ac iach, ynghyd â chyfarpar a systemau gwaith i’r holl ddisgyblion a’r staff (dysgu ac ategol). Hefyd, rydym yn darparu gwybodaeth a hyfforddiant lle bo hynny’n bosibl neu’n angenrheidiol, ac arolygaeth i’r diben hwn. Gellir cael copi o bolisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol o’r swyddfa. Caiff asesiadau risg eu cwblhau yn rheolaidd i sicrhau fod yr adeilad, y safle a mannau ymweld yn ddiogel i’r plant, i’r staff ac i ymwelwyr. Er diogelwch, mae gan yr ysgol system teledu cylch cyfyng sy’n canolbwyntio ar y prif fynedfeydd a’r iardiau chwarae