Diogelu
Cartref > Gwybodaeth > Diogelu
Amddiffyn Plant
Mae’n ofynol i’r ysgol hon ddilyn canllawiau clir a phendant o’r Ddeddf Diogelu Plant.Mae yna ddyletswydd ar yr athrawon a staff ategol adnabod arwyddion o gamdriniaeth neu esgeleustod a mynegi eu pryderon y syth.
Sut Mae’r Ysgol Yn Diogelu’r Plant?
Amddiffyn Plant:
- DBS cyfredol gan bob aelod o staff, lywodraethwyr ac ymwelwyr cyson ee. athro cerdd.
- Pob ymwelydd arall yn cael ei oruwchwylio 100%
- Un prif fynedfa, drysau eraill wedi cau o’r tu allan.
- Pob ymwelydd, heblaw rhieni, yn arwyddo i mewn a gwisgo bathodyn amlwg.
- Goruchwylio cymhareb addas amser chwarae a chinio.
- Cofnod yn cael ei gadw o gonsyrn am blant.
- Cyfeirio plant i’r Gwasanaethau Cymdeithasol os oes amheuaeth.
- Holl staff yn ymwybodol o’r polisi ac wedi pasio hyfforddiant Amddiffyn Plant.
Y Personau Cyfrifol am Amddiffyn Plant
Cyd-gysylltydd
• Mrs Meirwen Williams, Pennaeth Ysgol Nefyn - Rhif ffôn cyswllt - 01758 720265
Aelod o’r Llywodraethwyr
• Rhian Jones - Rhif ffôn cyswllt - 01758 721835
Person Cyswllt yr Awdurdod
• Bethan Helen Jones, Uwch Swyddog Diogelu Plant, Adran Addysg - Rhif ffôn cyswllt - 07977504344
• Tîm Cyfeiriadau Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol - Rhif ffôn cyswllt - 01758 704 455
Dylid cysylltu gyda Perosn dynodedig y Corff Llywodraethol neu’r Person Cyswllt yn yr awdurdod os oes honiadau sydd yn ymwneud ag amddiffyn plant yn gysylltiedig â’r pennaeth.
Ceir mwy o wybodaeth gan gynnwys copi o’r Polisi Amddiffyn Plant a gwybodaeth am gadw’n ddiogel i blant gan y Pennaeth yn yr ysgol.