CRhA

Mae gennym gymdeithas rieni llewyrchus yn yr ysgol. Hoffem feddwl bod y Gymdeithas yn cyflawni tair prif swyddogaeth:
1) Codi arian ar gyfer yr ysgol.
2) Bod yn fforwm i drafod rhai materion strategol yr ysgol e.e. gwisg ysgol, holiaduron rhieni, meysydd i’w datblygu.
3) Bod yn gyfrwng i’r rhieni, y rhieni newydd yn arbennig, i ddod i adnabod eu gilydd yn well.
Mae’r gymdeithas yn cyfarfod unwaith y tymor er mwyn trefnu digwyddiadau codi arian ar gyfer yr ysgol. Cynhelir cyfarfod cyntaf o’r gymdeithas yn gynnar yn nhymor yr Hydref. Mae croeso cynnes i bob rhiant hoffai ymuno â’r gymdeithas.
SWYDDOGION Y GYMDEITHAS RHIENI:
Cadeirydd - Mrs Bethan Williams
Ysgrifenyddes - Mrs Bethan Evans
Trysoryddes - Mrs Lois Roberts