Angor gadarn cyn hwylio'r don

Croeso i Ysgol Gynradd Nefyn


Pleser i ni fel staff yw eich croesawu chi a’ch plentyn i Ysgol Nefyn. Tra bydd eich plentyn dan ein gofal fe wnawn ein gorau i sicrhau y bydd yn hapus, yn ddiogel ac yn cael yr addysg o’r safon uchaf. Mae'r ysgol hon yn gymuned hapus a chartrefol lle’r ymdrechir i hyrwyddo twf ysbrydol a moesol bob unigolyn. Rydym am weld pob plentyn yn datblygu i fod yn unigolion annibynnol, hyderus a mentrus drwy gael llu o brofiadau eang, cyfoethog ac amrywiol. Rhoddwn fri ar barchu ein gilydd er mwyn sicrhau fod y plant yn tyfu i fod yn aelodau cyfrifol o’r gymdeithas.

Partneriaeth yw addysg rhwng yr ysgol, y gymuned a'r rhieini i sicrhau hapusrwydd a llwyddiant eich plentyn. Trwy gydweithio’n agos hyderwn y bydd cyfnod eich plentyn yn Ysgol Nefyn yn un hapus ac y bydd yn datblygu i’r eithaf yn addysgol a chymdeithasol.

Yr Ysgol

Y Diweddaraf

Newyddion

Nid oes newyddion ar hyn o bryd.

Facebook

X

Linciau Defnyddiol